Taith aeaf yr Alban 2025 8–15 Mawrth
Taith y Gaeaf i Crianlarich 8-15 Mawrth 2025.
Dyma amser y daith flynyddol i’r Alban yn cyrraedd, a’r daith wedi ei rhoi yn ôl y flwyddyn yma i fis Mawrth, gan obeithio basen yn cael mwy o eira. Yn anffodus, ddim dyddiau o eira oedd trefn yr wythnos, ond ambell o sbotyn ar gopa, ceunant a hafan gysgodol o lygad yr haul oedd ar gael. Gyda phryd a’r cymdeithasu nos Sul, ac yng ngeiriau un o’r criw, “Tywydd crys-t a ffactor 50” !!! Effaith newid hinsawdd !! ? !! Testun sgwrs wahanol beryg.
Dyma'r gofrestr fynydda’r wythnos yng ngeiriau arweinwyr y teithiau, wrth dechrau gyda:
Dydd Sadwrn 8/3/25
Ben Ledi (879 m).
[Keith].
Taith ddigon pleserus ar gyrraedd yr Alban lle cychwynnwyd o’r maes parcio ger y bont sydd yn croesi’r Garbh Uisge a mynediad i'r Bythynnod Coedwig Strathyre. Yna Dilyn y llwybr i fyny trwy’r coed nes i'r llwybr agor allan i'r mynydd ei hun. Llwybr digon braf ond dim golygfeydd gan fod cymylau'r diwrnod heb godi nes i ni gyrraedd y copa, lle cafwyd gwrthdroad byr a mymryn o olygfa o’r ardal. Yna, dilyn y llwybr gogleddol dros y copa ac i lawr i gwm or enw Stank Glên ac yn ôl i'r coed nes cyrraedd nôl yn y maes parcio. Taith o ddim ond 6 milltir/10 km a 4 awr o gerdded.
Dydd Sul 9/3/2025
Ben Cuachan (1,126 m) a Stob Diarmh (998 m).
[Dwynwen, Gerallt, Elen, Catrin, Trystan, Steve, Andras, Gethin, Tomos a Simeon].
Tywydd Crys T, Ffactor 50 a ddigon o amser am Bot Noodle.
Beinn Odhar (901 m).
[Alison].
Man cychwyn, o’r maes parcio ar yr A82 a ceunant Cron Allt tua 1-2 milltir uwchben Tyndrum. Ychydig ar ôl cychwyn i'r gogledd o’r maes parcio, troi o dan y llinell trên ac yn serth i fyny Beinn Odhar (901 m). Dilyn yr ysgwydd de orllewinol oedd yn serth iawn (tua 45º). Wedyn i lawr Allt a’ Chaol Ghlinne wrth anelu am Auchteryre ac ymuno a’r West Highland Way wrth ei ddilyn i’r de ac nôl i Crianlarich, taith o tua 17 km.
Ben Starav (1,078 m), Beinn nan Aighenan (950 m) a Glas Bheinn Mho’r (997 m).
[Gareth (Caernarfon)].
Ben Starav, Beinn nan Aighenan a Glas Bheinn Mho’r gan cychwyn o Glên Etive. Diwrnod hir a Ben Starav yn chwip o fynydda da !
Beinn Mhanach (953 m) Beinn a’ Chuirn (923 m) Munroe Top.
[Sandra, Gareth (Llanystyumdwy) a Keith].
Fel, a gyda, Alison cychwyn o’r maes parcio ar yr A82 a ceunant Cron Allt am ychydig, tua 1-2 milltir uwchben Tyndrum. O'r fan yma, dilyn y West Highland Way ac wedyn troi i mewn i'r Gleann Achadh – Innes Chailein wrth gerdded y lôn dŵr a chroesi pum afon nes cyrraedd y bont yn Srath Tarabhan a cherdded yn serth a syth i fyny at gopa Beinn Mhanach, cinio sydyn ac am y copa nesaf, Beinn a’ Chuirn. Yna, yn serth i lawr y llethr uwchben Allt an Lo’in ac yn ôl ar y lôn dŵr wrth ail croesi'r pum afon ar y ffordd allan. Taith o tua 15 milltir/24 km.
Dydd Llun 10/3/25.
Meall Greigh (993 m) a Meall Garbh (1,123 m).
[Gethin, Trystan ac Andras].
Man cychwyn ym maes parcio gwesty Ben Lawers. Cychwyn cerdded am 9yb gan gyrraedd y copa gyntaf, Meall Greigh, mewn gwynt hynod o gryf wnaeth adael dim amser i'r criw cael munud o seibiant. Penderfynwyd symud ymlaen yn unswydd am Meall Garbh, cyn i bawb ddisgyn oherwydd oeri. Ar gyrraedd yr ail gopa roedd y gwynt wedi arafu digon am doriad a seibiant i gael y paned holl haeddiannol. Gyda An Stuc yn ein denu, aethom lawr i'r Bealach at Cat Gully a mymryn o sgrialu serth at gopa An Stuc. Nôl i lawr wedyn gan anelu am Bealach Dudh ac Lochan nan Cat a’r ceunant Lawers Burn ac ar ei hyd nes cyrraedd y briffordd mewn man parcio ger y gwesty.
Ben Ledi (879 m).
[Alison, Catrin, Dwynwen, Elen ac Gerallt].
5 Munroe ag 1 Corbett mewn gwynt cryf, ac wedyn cwblhau gyda coffi a cacen yn Mhor Callander.
Beinn Bhuide (949 m) o Loch Vyne.
[Steve, Alun a Tomos].
Y tri ohonom yn cychwyn i fyny lôn stad breifat heibio bragdy Loch Vyne (Wedi cau!). Trio croesi’r afon wedi cael sgwrs gyda’r ffermwr lleol ac ymlaen a ni fyny trac serth at lwybr rhyw 200 m o’r copa. Gwyntoedd cryf unwaith i ni gyrraedd y grib a phwyll oedd bia hi at y copa ac yn ôl at y trac. Penderfynwyd dilyn trac gwahanol ar y Ffordd yn ôl i lawr drwy goedwig breifat gydag arwyddion “Do Not Enter due to Forestry Work”. Doedd dim golwg torri coed yno ers blynyddoedd, felly ymlaen a ni i'r chwarel. Y sialens nesa. Alun yn clirio pethau hefo’r swyddfa i ni gael cerdded drwy’r chwarel yn lle mynd yn ôl 3 milltir ar goesau blinedig.
Meall Buidhe (932 m) a Stuc am Lochain (960 m).
[Gareth (Caernarfon)].
Dau gopa ger Loch an Daimh yn Glên Lyan . Parcio ger yr argae a dringo i gopa Meall Buidhe yn ystod y bore. Lawr at yr argae am bicnic yn y car cyn dringo Stúc an Lochain yn ystod y prynhawn. Diwrnod gwyntog ar y copaon.
Beinn Ghlas (1,103 m) Ben Lawers (1,214 m).
[Gareth (Llanstymdwy), Sandra, Simeon, Keith].
Cychwyn o faes parcio gwarchodfa natur genedlaethol Ben Lawers sydd yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban. Trwy’r arddangosfa hanesyddol yr Old Shielings, croesi'r lon ac i fyny a ni ar hyd llwybr y warchodfa sy’n dilyn patrwm y ceunant. Dyma ni allan o’r ceunant a chwrdd â chyffordd yn y llwybr, ac un arwydd yn dweud, i fyny i Ben Lawers i'r dde, ac y llwybr i'r chwith oedd y llwybr allan. Sistem “Contra Flow” wedi ei chreu i warchod natur ac arbed rhag i’r llwybrau ledu!! Syniad gwych a oedd yn amlwg yn gweithio. Dyma ni yn dringo yn serth i’r copa gyntaf, Beinn Ghlas, mewn gwynt oedd ddigon i daflu rhywun ar ei gefn, tywydd hollol groes i’r dydd Sul cynt. Wedi cyrraedd y copa, ymlaen am Ben Lawers, a thaith ddi-wynt, ond oer gyda’r gwynt yn rhwygo trwy bawb, felly dim amser i aros ar y copa, ond cinio mewn hafan gysgodol.
Dydd Mawrth 11/03/2025.
Beinn Chuirn (880 m).
[Alison].
Er ei fod wedi ei gysgodi braidd gan ei gymydog gwych Ben Lui, mae Beinn Chuirn yn dal i gynnig taith bleserus dros ben, gyda golygfeydd arbennig o odidog o ardal Glen Lochy a Strath Fillan yn enwedig ar ddiwrnod fel yma mewn haul braf.
An Caisteal (995 m) a Beinn a’ Chroin (942 m).
[Andras a Gethin].
Diwrnod ddigon pleserus i’r ddau, wrth gwblhau'r copaon lleol yma i Crianlarich, gan gychwyn o’r gilfan ar y lôn A82 ger Glên Falloch, yna i fyny'r trac heidro nes troi am Sron Gharb wrth weithio ein ffordd am y copa gyntaf o An Caisteal. Wedi cwblhau’r copa gyntaf, i lawr i’r Bealach Buidhe ac wedyn i fyny i'r ail gopa drwy ddringo’r llwybr de orllewin at fymryn o sgrialu cyn cyrraedd copa Beinn a’ Chroin. Taith ddigon ddi-stŵr yn ôl wrth ddilyn yr afon Coire Earb ac yr afon Falloch i waelod y glen yn ôl i'r man cychwyn.
Meall Greigh (1,001 m) a Meall Garbh (1,123 m).
[Sandra, Gareth (Llanystumdwy) ac Keith].
Dyma anelu am y pentref Lawers pan ddaeth y loch i olwg, a dyma’r cwestiwn, “beth yw enw’r Loch yma”, a’r ateb digon sydyn yn ôl “Loch Dhwgwlyb” a dyma fuodd Loch Tay am ran fwyaf o’r bore wrth gerdded yn serth am y copa gyntaf, sef Meall Greigh, mewn gwynt cryf. Seibiant mewn mymryn o gysgod wrth edrych draw am Schihallion ar olygfa banoramig anferthol cyn anelu am yr ail gopa Meall Garbh mewn gwynt a cenllysg. Yn ôl, gan anelu am yr Shielings a cheunant Lawers Burn.
Stob a’ Choire Odhair (932 m) a Stob Ghabhar (1,090 m).
[Dwynwen, Gerallt, Gareth (Caernarfon) Steve, Trystan, Tomos ac Simeon].
Tywydd amrywiol, tirwedd amrywiol a golygfeydd godidog o Rannoch Moor. Dros grib Aonach Eagach i gopa Stob Ghabar a pheint yng ngwesty'r Bridge of Orchy ar ffordd adre.
Beinn Chabair (933 m).
[Catrin ac Elen].
Diwrnod hamddenol wrth wylio’r cawodydd yn mynd heibio i'r gogledd.
Dydd Mercher 12/03/2025
Creag Mhòr (1,047 m) a Beinn Sheasgarnaich (1,078 m).
[Gerallt, Dwynwen, Steve, Alun, ac Elen].
Cerdded 5 km ar drac o Kenknock yn Glen Lochay, cyn codi’n serth i gopa Creag Mhòr (1,047 m). Disgyn wedyn i 650 m cyn dringo at fraich hir oedd yn arwain at gopa Beinn Sheasgarnaich (1,078 m). Cwblhau’r cylch trwy ddisgyn trwy dir corslyd i’r dwyrain a lawr lôn yn ôl i Kenknock. Diwrnod hir, tua 26 km, ond gwerth chweil. Ambell lun o Steve a Trystan, wedi’u fframio’n ofalus, yn yr eira prin! Diwrnod gwych a chofiadwy. Llawer o geirw gwyllt i’w gweld wrth edrych draw am Ben Nevis yn yr pellter.
Schihallion (1,083 m).
[Gethin, Andras ac Gareth (Llanystumdwy)].
Taith bleserus iawn am y copa yn troedio drwy'r cerrig a hyd y fraich hir at y copa mewn gwynt cryf iawn wrth droi ac Dilyn y rhan llwybr yn nôl i'r man cychwyn.
Sgiath Chuil (921 m) ac Meall Glas (959 m).
[Gareth (Caernarfon)].
Corsydd ddi-lwybr. Munroes i’w dringo unwaith mewn oes !
Ben Venue (727 m)
[Keith, Alison, Simeon].
Cychwynnodd y tri ohonom o faes parcio Loch Achray ac ar hyd llwybr coedwig pîn, nes cyrraedd yr A821, ac wedyn anelu am y bont cariadon pren dros yr afon Achray. O’r bont, taith digon pleserus wrth ddilyn y llwybrau coedwig nes cyrraedd Bealach Môr na Beinne lle oedd yn braf cael dod allan o’r goedwig. Dow-dow oedd y drefn wedyn wrth gerdded y llwybr pwrpasol nes cyrraedd y mymryn o sgrialu at yr ysgwydd gyntaf i droi yn serth i fyny am y copa. Cawsom sawl copa ffug a disgyniad cyn gweld y copa swyddogol lle gawsom olygfa heb ei ail. Golygfeydd godidog 360º wrth gael ein cinio o fôr i fôr, sef Môr y Gogledd i'r dwyrain, a’r Firth i’r gorllewin. Hefyd, dwy o brif ddinasoedd yr Alban, “Caeredin a Glasgow”!! Roedd dewis peidio mynd am Munroe ar ddiwrnod mor braf wedi talu. Taith yn ôl wedyn dros Creag a’ Bhealaich a Stob an Lochain wrth gael seibiant ar “Patio” bwthyn saethu gan edrych ar Ben Lomond yn disgleirio yn haul y prynhawn.
Stirling.
[Tomos].
Aeth Tomos am ddiwrnod hanesyddol i amgueddfeydd Stirling. Cafodd y criw adroddiad diddorol o’r hanes diddorol dros bryd y noson honno.
Dydd Iau 13/03/2025
Stob Coire an Albannaich (1,044 m) a Meall nan Eun (928 m).
[Gethin, Andras, Gareth (Caernarfon), Tomos, Steve a Simeon].
Roedd cerdded i mewn yn cymryd amser wrth godi yn raddol am 4 milltir cyn cyrraedd y bwlch. O’r bwlch, bras gamu am y copa cyntaf. Golygfeydd rhagorol o ynys Mull a’r mynyddoedd cyfagos. Gwelsom yr ail gopa ac mi ddaru Gethin ei ddisgrifio fel lwmpyn fawr o laswellt. Ar ôl ffarwelio a’r ail gopa, disgyn i lawr yn sydyn wrth gael cwmni gwartheg Albanaidd “Scottish Highland” tra’n anelu am y ceir.
Meall nan Tarmachan (1,044 m) a’r grib at Meall Garbh (1,000 m), Beinn nan Eachan (1,000 m) a Creag na Caillich (914 m).
[Gerallt, Dwynwen, Elen, Alison, a Gareth (Llanstymdwy)]
Y grib yn ddeuliw, y gogledd yn wyn a’r de yn wyrdd, Llwybrau gwych a pheint da yn y Caper Caillie bar yn Killin.
Cruach Fhiarach (643 m), The Brack (787 m) a Cnoc Coinnich (764 m).
[Keith].
Cychwyn o’r maes parcio ymwelwyr coedwigoedd yn Ardgartan a dilyn trac coedwig nes cyrraedd gwaelod y ceunant serth “Creag a Chait” ac y copa gyntaf o Cruach Fhiarach cyn cyrraedd yr lochan fach syn eistedd o dan gopa The Brack, (lle sy’n boblogaidd iawn gydag unigolion sy’n mwynhau gwersylla gwyllt wrth chwilio am fannau gyda golygfeydd anhygoel o’r wawr a'r machlud). Ar gyrraedd copa The Brack, dyma ymdrochi yn yr olygfa anferthol o’r Arrochar Alps i'r gogledd sef Y Crydd - The Cobbler, Beinn Ime a Binnein an Fhidhleir i enwi mond rhai. Anelu o’r Brack wedyn i lawr yr ysgwydd dde orllewin wrth ddisgyn 300 m cyn ail-godi i 274 m ar hyd yr ysgwydd ogledd orllewinol am Cnoc Coinnich lle cafwyd golygfa anhygoel o Loch Long i lawr am Gare Loch ac Ailsa Craig. Serth i lawr wedyn i'r goedwig Coilessan Glên ac yn ôl i'r man cychwyn.
Dydd Gwener 14/03/2025.
Ben More (1,174 m) a Stob Binnein (1,165 m).
[Elen, Gareth (Caernarfon) Gareth (Llanstymdwy), Gerallt, Dwynwen, Andras, Gethin, Tomos ac Simeon].
Dyma gychwyn o’r man parcio ger yr A85 a fferm Benmore ac i fyny yn serth yn unswydd wrth i Gethin arwain y criw drwy eira a rhew. Pigau bach a mawr ymlaen a chyrraedd y copa mewn dwy awr a hanner fel oedd y cymylau yn codi. Ymlaen a drosodd i Stob Binnein wrth fymryn o sgrialu am ei lawr tra anelu am fwlch Bealach-eadar-dha Bheinn, fyny wedyn ar hyd yr ysgwydd am yr ail gopa, Stob Binnein a’n gwobrwyo gyda golygfeydd o’r Cairngorms i Ben Nevis. Darfod y diwrnod a’r wythnos wedyn wrth ei goroni yn y Rod and Reel yn Crianlarich.
Ben Eunaich (989 m) a Beinn a Chochuill (980 m).
[Steve a Keith].
Y cynllun gwreiddiol oedd 2 Munroe yn Glên Lyon. Eira yn Crianlarich yn newid y cynllun oherwydd lôn anaddas mewn tywydd gaeafol. Y ddau ohonom yn mynd am y ddau fynydd wrth Loch Awe, cryn dipyn llai o eira yn yr ardal hon. Dilyn trac da at lwybr ofnadwy o serth i gyrraedd y grib am Beint a Chocuill. Un copa ffug ar ôl y llall cyn cyrraedd golygfa i’r brenin ar uchder o 989 m. Hanner awr braf ar y copa yn gwerthfawrogi'r golygfeydd. Ymlaen at y bwlch y Lairig Lanachain cyn cyrraedd yr ail gopa gyda phen Cruachan o’n Blaenau a’r môr i'r de. Cael cwmni Albanwr o Lochhearnhead am tua ugain munud, cyn ei adael am y llwybr i’r Dyffryn. Heb ddeall gair ddwedodd o, ar wahan i “Lochhearnhead”!! Diwrnod difyr heb dorri fewn i chwys a cyffyffl. Rhoi’r byd yn ei le ar ddiwedd wythnos fendigedig.
A dyma wythnos arall o fynydda gaeafol yn yr Alban wedi ei chwblhau gyda gwledd o swper gan y gwesty unwaith eto. Diolch am gwmni pawb a’r croeso anhygoel a gafwyd gan y gwesty.
Mae taith gaeaf 2026 y clwb wedi ei chadarnhau ac unwaith eto yn y gwesty ardderchog "Crianlarich Hotel" Crianlarich, o ddydd Sadwrn y 7fed o Fawrth tan fore Sadwrn y 14eg 2026.
Rhagor o fanylion i ddilyn diwedd yr Haf 2025.
Adroddiad gan Keith Roberts.
Lluniau gan nifer o'r aelodau ar FLICKR